Mae’r Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol, sy’n cynnwys ieithoedd rhanbarthol, lleiafrifol, cynhenid, traws-ffiniol, a ieithoedd cenedlaethol llai, yn rwydwaith Ewropeaidd sy’n hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol mewn cyd-destun Ewropeaidd.
Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2007 yn dilyn cyfres o gyfarfodydd rhwng amryw Fyrddau Iaith llywodraethol a sefydliadau anllywodraethol sy’n arbenigo mewn datblygiad ac adfywiad ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop.
Mae’r rhwydwaith wedi derbyn cyllid trwy raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn a bydd yn defnyddio hwn fel platfform i sefydlu ei hun fel y prif sefydliad yn gweithio i hyrwyddo a datblygu ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop.
Prif nod y rhwydwaith ydy meithrin amgylchedd lle mae modd mynd ati i hybu amlieithrwydd, amrywiaeth ieithyddol a dysgu ieithoedd ar gyfer y tua 50 miliwn o drigolion yr UE, 10% o’r boblogaeth, i siarad iaith ranbarthol neu leiafrifol.